Gwyrdd clyfar. Defnyddio ynni, ddwywaith.

Mae Thermify yn ddatrysiad newydd radical i gymryd lle boeleri nwy ac i gynhyrchu refeniw newydd o gyfrifiadura cwmwl.

Gwres gwastraff: mae cyfrifiaduron yn trosi trydan yn wybodaeth, gan gynhyrchu gwres fel sgil gynnyrch. Mae 1 kWh o drydan yn cyfrif fel 3,600kJ o wres.

Gan nad oes gan wybodaeth gorff ffisegol nac egni, rhaid trosi 100% o'r trydan yn wres. Nid oes ganddo unman arall i fynd. Yn y rhan fwyaf o ganolfannau data traddodiadol, defnyddir hyd yn oed mwy o drydan i echdynnu a chwythu'r gwres gwastraff i'r atmosffer.

Mae HeatHub Thermify yn dal gwres sy’n cael ei gynhyrchu yn y broses cyfrifiadura a’i drosglwyddo i’r system gwres canolig, gan ddefnyddio’r ynni ddwywaith!

Y broses

Cyfrifiadura cwmwl

Mae tasgau cyfrifiadura cwsmeriaid busnes yn cael eu prosesu gan ddefnyddio caledweddau Thermify sydd wedi’u gosod yn ein rhwydwaith ganolfannau data HeatHub. Mae’r broses hon yn cynhyrchu gwres.

Gwres

Mae’r gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan y broses cyfrifiadura yn cael ei ddal, nid ei wastraffu, ac yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwres i dai cwsmeriaid am bris rhesymol.

Mae pawb yn elwa

Mae’r broses yn darparu capasiti cyfrifiadurol cost-effeithiol, ecogyfeillgar ar gyfer ein cwsmeriaid busnes a gwres fforddiadwy ar gyfer ein cwsmeriaid cartref.

Y farchnad


300%

Mae trydan dros 300% yn ddrutach na nwy, sy’n golygu bod perygl gwirioneddol y bydd gwresogi’n anfforddiadwy i lawer mwy o bobl.

150,000

Yn 2021 cafodd bron i 150,000 o gartrefi newydd eu hadeiladu. Bydd Safon Tai Dyfodol Llywodraeth y DU yn golygu bod angen i bob cartref newydd gael ei adeiladu gan gynnwys systemau gwres effeithlon yn hytrach na boeleri nwy traddodiadol.

$832biliwn

Yn 2020, roedd marchnad cyfrifiadura cwmwl y byd werth $371.4 biliwn. Erbyn 2025, disgwylir i hyn godi i $832.1 biliwn. (ffynhonnell)

94%

Mae 94% o sefydliadau yn defnyddio gwasanaethau cwmwl. Yn sicr, mae cyfrifiadura cwmwl yma i aros a bydd yn tyfu hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol. (ffynhonnell)

Mae cwmwl Thermify yn wasanaeth sydd yn rhedeg tasgau cyfrifiadura wedi’u hamgryptio sydd wedi’u talu gan ddefnyddwyr cyfrifiadura cwmwl - fel arfer cwmnïau ydyn nhw. Mae'r tasgau hynny'n rhedeg ar rwydwaith gwasgaredig, diogel o ganolfannau data bach, ond pwerus, sy'n cymryd lle'r boeleri nwy yng nghartrefi pobl. Ond mae'r gwres a gynhyrchir fel sgil-gynnyrch prosesu data yn cael ei ddefnyddio'n wahanol…

Lle byddai boeler nwy fel arall yn cael ei osod, mae ein technoleg HeatHub patent yn oeri'r proseswyr data. Mae'n defnyddio'r gwres hwnnw ar gyfer cynhesrwydd a dŵr poeth - ar-alw. Yn union fel boeler nwy, ond yn cynhyrchu refeniw o gyfrifiadura cwmwl. Dysgwch fwy am fanteision Thermify i fusnesau a chartrefi isod:

Thermify ar gyfer BusnesHeatHub Thermify ar gyfer cartrefi