Cartrefi
O 2025 ni fydd gan cartrefi newydd foeleri nwy
Canolfan ddata newydd sy’n gwresogi tai a dŵr yn uniongyrchol, yn hytrach na boeler nwy.
heathub
Defnyddio ynni ddwywaith
Mae datrysiad Thermify HeatHub yn amnewid eich boeler nwy traddodiadol gyda’r ddyfais newydd sbon, sydd yn galluogi rhwydwaith cwmwl Thermify i gynnal prosesu data diogel a datganoledig ar gyfer cwsmeriaid busnes a dal gwres o’r broses honno i wresogi eich tŷ.


Buddion i bawb
Cynilion misol, ôl-troed
carbon is ac amgylchedd lanach.
“Byddai allyriadau carbon cysylltiedig â gweithredu HeatHub Thermify yn llawer is na boeler nwy” - Modelling and simulation of Thermify HeatHub in Home Energy Dynamics’ gan Energy Systems Catapult, Rhagfyr 2021.
Buddion amgylcheddol
Cyfrifiadura gwyrdd yn wir
“Mae canolfannau data Thermify yn defnyddio 75% yn llai o garbon ar gyfartaledd na chanolfannau data traddodiadol” (Adroddiad Allyriadau Carbon Thermify, Climax Community Limited 2022) Ymhellach, mae Thermify yn defnyddio cadwyn gyflenwi Werdd, gan sicrhau bod deunydd yn dod o ffynonellau lleol i leihau ein hôl troed carbon trwy leihau cludo rhannau a chydrannau.
Buddion cymdeithasol
Gwresogi pobl, nid y byd
Mae Thermify yn defnyddio gwres wedi’i gynhyrchu gan ein canolfannau data er mwyn gwresogi cartrefi pobl. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd fwyaf agored i niwed. Byddwn yn darparu gwres am ddim neu am bris isel neu i gartrefi mewn angen.
Buddion economaidd
Cystadleuol, Gwyrdd, Cyfrifol
Mae Thermify yn darparu gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl am brisiau cystadleuol drwy ddefnyddio rhwydwaith dosbarthu gan ddarparu gwres i gartrefi a chefnogi gartrefi mewn angen.